1,2,4,5,(6); 1,3,4,6; 1,3,7; 1,(4,5),6. Dacw'r ffynnon wedi ei hagor A ddysgwyliwyd lawer oes, 'Nawr yn llifo fel y grisial Maes o'i ystlys ar y groes, Dwfr a gwaed, rydd iachâd I'r pechadur mwyaf gaed. Dacw'r hoelion geirwon llymion, Wedi eu curo'n awr i dre, Dacw'r bicell yn trywanu, I mewn o dan ei ystlys E'; Dacw boen, addfwyn Oen, Yn rhoi'r nefoedd 'dewi son. Yma tardd cyfiawnder allan Fel rhyw ddylif mawr didrai; Ac er golchi miloedd ynddo, Nid yw'r dyfroedd ronyn llai: Gwaed fy Nuw, haeddiant yw, Trech na beiau o bob rhyw. 'Nawr mi glywa'r gair "Gorphenwyd!" Gorphen iachawdwriaeth wir! Ac mi wela'r gwaed yn hidlo, Tros ei ruddiau sanctaidd pur! Wele'r nef, gadarn gref, 'Nawr yn t'wyllu wrth ei lef. Dyma'r creigydd serth yn rhwygo, Dyma'r meirw'n codi'n fyw; Pwy greadur ag all ddyoddef, Gruddfan chwerw f'Arglwydd Dduw? Ochain mae, fe gadd wae, Fel cawn inau fy rhyddhau. Mînnau bellach a obeithiaf, Gobaith ag all estyn f'oes, Gobaith wedi ei sylfaenu Ar och'neidiau pur y groes: Dyma wlad câf iachâd, A chaf gyflawn wir ryddhad. Angeu, bellach gwna dy waethaf, Nid yw'th ddychryniadau ddim. Mwy o hedd sy'n mhen Calfaria, Nag sydd yn dy saethau o rym: Mi âf trwy farwol glwy, Yn erbyn tònau mawrion mwy. (Dydd Gwener y Groglith - Prydnawnol Weddi) Dacw'r ffynnon wedi'i hagor, A ddysgwyliwyd amryw oes, 'Nawr yn llifo fel y grisial Maes o'i ystlys ar y groes; Dwr a gwaed rydd iachâd I'r pechadur mwyaf gaed. Dacw'r hoelion geirwon llymion Wedi eu curo 'nawr i dref, Dacw'r bicell yn trywanu Mewn o dan ei ystlys Ef; Dacw boen addfwyn Oen Yn rhoi'r nefoedd dewi son. Wele'r creigydd serth yn rhwygo, Wele'r meirw 'n codi yn fyw; Pa greadur ag all ddyoddef, Griddfan chwerw'n Harglwydd Dduw! Ochain mae, Fe gadd wae, Fel caem ninnau ein rhyddhau. (Digonolrwydd aberth y groes) D'accw'r ffynnon wedi ei hagor, A ddisgwyliodd llawer oes, Yn awr yn llifo fel y grisial, O'i ystlys sanctaidd ar y groes; Dw'r a gwaed, rydd iachâd, I'r pechadur mwya' gaed. Daccw gariad fel yr afon, Daccw heddwch fel y llif, Wedi'm mrodyr gael ei feddu, Brodyr anwyl fwy na rhif; Gyda hwy, caiff fod mwy, F'enaid heb na briw na chlyw'. Minnau bellach orfoleddaf, Mae fy mywyd gwerthfawr iawn, Wedi ei roddi y'nghudd i gadw Mewn Cyfryngwr perffaith llawn; Digon yw, mae fe'n Dduw, Ceidw f'enaid bach yn fyw.William Williams 1717-91
Tôn [8787337]: gwelir: Arglwydd anfon dy leferydd Dacw gariad fel yr afon Mae grasusau pen Calfaria Mae cyflawnder maith o haeddiant Rwyf fi heddyw'n teimlo undeb |
Yonder is the fount having been opened Which was expected for many an age, Now streaming like the crystal Out of his side on the cross, Water and blood, grant salvation To the greatest sinner found. Yonder are the rough, sharp nails, Having been driven home, Yonder is the spear piercing, Within under His side; Yonder the pain, gentle Lamb, Putting heaven to silence. Here springs righteousness out Like some great unebbing torrent; And although thousands wash in it, It is not the least bit less: My God's blood, virtuous it is, Mightier than sins of every kind. Now I hear the word "It is finished!" Finishing true salvation! And I see the blood streaming, Across his holy, pure cheeks! See heaven, firm, strong, Now darkening at his cry. Here the steep rocks are rending, Here the dead are rising alive; What creature can suffer, The bitter groans of my Lord God; Moaning he is, he got woe, That I instead might get set free. I too henceforth shall hope, Hope which shall extend my lifespan, Hope having been founded On the pure groans of the cross: Here is the land I may get healing, And get full, true freedom. (Good Friday - Afternoon Prayer) Yonder is the fount having been opened, Which was expected by various ages, Now flowing like the crystal Out of his side on the cross; Water and blood than give healing To the greatest sinner found. Yonder are the rough, sharp nails Having been driven home, Yonder is the spear piercing In under his side; Yonder the pain of the gentle Lamb Putting heaven to silence. See the steep rocks rending, See the dead rising alive; What creature can endure, The bitter groans of our Lord God? Groaning he is, he got woe, That we might get freed. (The sufficiency of the sacrifice of the cross) Yonder is the fount having been opened, Which many ages have expected, Now flowing like the crystal, From his holy side on the cross: Water and blood, grant salvation To the greatest sinner found. Yonder is love like the river, Yonder is peace like the flood, My brothers have got possession of it, Dear brothers greater than number; With them, my soul may get to be, More without either injury or sickness. I too henceforth shall rejoice, My life is very valuable, Having been put hidden to keep In a perfect, full Mediator; Sufficient he is, he is God, He will keep my little soul alive.tr. 2015,23 Richard B Gillion |
|